colliant ei heiddo. Celodd farwolaeth ei gwr, a dymunodd ar hen grydd, yr hwn oedd yn dra thebyg yn ei wynebpryd i'w gwr trangcedig, i gymmeryd arno mai efe oedd ei gwr; a chyttunid iddo felly wneud ei ewyllys, gan adael yr holl feddiannau iddi hi. Anfonid am gyfreithiwr i barottôi yr ysgrifeniadau. A phan y daeth, ymddangosodd y weddw mewn galar mawr herwydd saldra ei gwr, ac yna dechreuai ai holi ef yn ngwydd y cyfreithiwr, a gofyn iddo am ei eiddo, ac am wneuthur ei ewyllys, gan ddisgwyl yr attebai wrth ei bodd. Y crydd, gan duchan a chan edrych debycced ag a allai i ddyn bron ar fin marw, a attebai yn wanllyd, "Fy mwriad yw gadael hanner fy meddiannau i chwi, fy ngwraig anwyl; a meddyliwyf fod y crydd tlawd sydd yn byw yn ein hymyl ni yn teilyngu yr hanner arall, gan ei fod bob anser yn gymmydog mwyn a chariadus." Synnai y weddw yn fawr wrth glywed hyn ag oedd mor groes i'r atteb a ddisgwyliasai; ond ni feiddiai wrthwynebu ewyllys y crydd, rhag ofn iddi golli yr holl eiddo. Ond yr un pryd chwerthai yr hen lwynog gan y crydd yn ei lawes, a thrwy hyn o dro cafodd hanner holl gyfoeth y weddw a fwriadid ganddi er ei lles ei hun yn unig. Meipen new Erfinen fawr.---Ychydig o amser yn ol dangoswyd, yn masnachdý Meistriaid Drummond, yn Stirling, yn yr Alban, meipen yn pwyso 184 o bwysau, ar ol torri ymaith y pen a'r gwreiddyn; a mesurodd ddim llai na thair troedfedd o gwmpas. Tyfodd y feipen hon yn Nghastell Clan Gregor, swydd Perth, a thynwyd hi allan o faes oddeutu 10 erw o faintioli, yr hwn a ddygodd gnwd toreithiog, a chynnwys amrai gymmaint a'r un uchod. Deallwn fod perchenawg y feipen yma gwedi defnyddio llwch esgyrn fel gwrtaith i faip; ond gyda pha lwyddiant ni wyddom; ond achlesid y cae lle y tyfodd hon â gwrtaith cyffredin, oddeutu 20 tunnell i bob erw.--Stirling Journal. Gonestrwydd.---Yn ystod mis Tachwedd ymddangosodd bachgen wedi ei wisgo fel Ilongwr, yn ei ddillad goreu, yn Swyddfa Bow Street, Llundain, a nesàodd at y fainc lle yr eisteddai Sir Richard Birnie, Ynad, ac heb ddywedyd gair, tynnodd hanner coron newydd o'i lawgell, a gosododd ef ar ysgrifen-le y Prif Ynad. "I ba beth mae hwn, fy machgen i," ebe Sir Richard, gyda mawr syndod. "Oddeutu tair blynedd yn oi," attebai y bachgen, mewn acceniad Albanaidd, "deuais attoch i gardotia, a rhoisoch fenthyg hanner coron i mi; dychwelais yn awr i ad-dalu i chwi.” Yn wir," meddai yr yuad, “bachgen gonest ydwyt. Yr wyf yn cofio am danat yn burion. Lle yr ydwyt wedi bod er hynny?" "Mewn llong sydd yn cario glo; ond ni fum i ddim yn Llundain er hynny, onid ê taleswn i chwi yn gynt." "Cadw yr hanner coron," ebe Sir Richard, "rhoddais ef yn anrheg, ac nid yn echwyn; ac os bydd arnat eisiau cynnorthwy ryw dro etto, yr hyn, gobeithio, na fydd byth, os deui attaf, mi a roddaf un arall i ti.” Derbyniodd y bachgen yr arian yn ol, er yn dra anfoddlawn, ac wedi ymostwng, ymadawodd o'r Swyddfa. Rhybydd i Dafarnwyr.---Yn y mis diw eddaf gwysiwyd tafarnwr ger bron Ynadon Llynlleifiad, i atteb i achwyniad yn ei erbyn am oddef i rai chwareu cardiau yn ei dý, profid yr achwyniad, a dirwyid ef i dalu tri Gini, ynghyd â'r draul am y gwys. lythyr. Chwedl Indianaidd.---Pan oedd un o gyf eillion Major Hamilton yn teithio â rhan o'i fyddin rhwng Gulliakote a Luncewarra, galwodd ar bentrefwr i'w arwain trwy goedwig yn foreu iawn un diwrnod. Ymresymai y pentrefwr åg ef, a dywedai mai nid arferiad y wlad oedd teithio cyn dydd, gan mai peryglus oedd hynny. Y swyddwr milwraidd, gan dybied nad oedd hyn ond esgus am ddiogrwydd, a ddechreuodd ei fygythio yn llym y gwnai ei gospi os nid âi gyd âg ef. Ni ddywedodd y dyn air yn rhagor, ond cymmerodd ei darian a'i gleddyf, a chychwynodd ar hyd lwybr cul a orchuddid gan laswellt hir a chorsenau. Y swyddwr, yr hwn a flaenorai ei fyddin, a'i dilynai, ac wedi iddo deithio oddeutu pum milldir yn arafaidd, ac yu hanner cysgu ar ei farch, clywodd oergri erchyll, a chanfu tiger mawr yn rhuthro heibio, mor agos iddo nes o'r braidd yr ysgubai ei geffyll. Y pentrefwr druan a ddyrchafodd ei gleddyf a'i darian, ond llusgid ef mewn mynydyn dan grafangau yr anifail, yr hwn a drodd, gyd â'r dyn yn ei geg, a chan chwyrnu fel cath uwch ben llygoden, edrychodd yn ngwyneb y swyddwr. Gwnaeth y milwr yr hyn a allai, ac efe a'i ddynion a ymosodasant ar yr anifail, a chlwyfasant ef cyn dosted nes y gorfu arno adael ei ysglyfaeth. Ond tarawyd y dyn mor effeithiol y tro cyntaf, a maluriwyd ei ben yn y cyfryw fodd, nes ydoedd yn ddarnan. Mynegodd y swyddwr i Major Hamilton na fu yr olygfa hon, er v dydd hwnnw, ond anaml o'i freuddwydion; a phan y teimlai yr afiechyd lleiaf, neu lycheden, dychwelai y weledigaeth o'r tiger a'r dyn anffodus yn ei enau, yr hwn a syrthiasai yn ysglyfaeth i'w annoethineb ef.---Bishop Heber's Narrative. Hynaflaeth yr Eglwys.-Yn amser Iago yr ail, Brenhin Lloegr, arferai amryw Offeiriaid Pabaidd ymgyfarfod mewn ystafell yn agos i Temple Bar, Llundain, i'r diben o gynnal dadleuon cyhoeddus ar byngciau crefyddol. Cymmerai un o honynt bob amser yr ochr Brotestanaidd, er mwyn ei hamddiffyn yn wanaidd, ac yn y diwedd cael ei orchfygu gan resymmau éi wrthwynebwyr. Digwyddodd un tro i destyn y ddadl fod ynghylch "Hynafiaeth yr Eglwys," neu, fel yr oeddynt hwy yn geirio y pwngc, "Pu le yr oedd y Grefydd Brotestanaidd cyn amser Luther, neu o flaen Diwygiad?" Gan fod cyflawn ryddid bawb ddyfod yno, aeth llengcyn o grydd i mewn i'r ystafell i wrando ar y ddadleuaeth. O'r diwedd, gan dybied ei hun yn addasach i ddadleu ar y pwngc na'r ffug Brotestant, gofynodd gennad iddynt i lefaru ar y testyn. Hwythau a roisant iddo gyflawn ryddid, gan ddywedyd, fod yn iawn i bawb gael dywedyd eu meddwl. Ar hyn dywedodd y llengcyn, nad oedd ganddo ond ychydig i'w ddywedyd, a bod yn rhaid iddynt ganiattâu dau beth iddo; yn gyntaf, bod i'w wrthwynebwr roddi atteb rhwydd i bob gofyniad a ofynai iddo, a bod iddo beidio a digio wrtho am ofyn yr hyn a ofynai. Cydsyniodd pawb a'r ammodau hyn. Yna gofynodd y bachgen i un hen fonach, "Attolwg, Syr, pa bryd y darfu i chwi olchi eich gwyneb?" "Beth yw hynny i ti, yr hogyn gwirion?" ebe yr Offeiriad yn ddigllon. "Nage, Syr," ebe y bachgen; oni ddarfu i chwi addaw peidio digio?" "Gwir, felly y darfu i mi: Wel, fy machgen, golchais ef bore heddyw." "A pha le yr oedd eich gwyneb, Syr, cyn i chwi ei olchi ef?" "Pale yr wyt ti yn meddwl ei fod, ond yn y fan lle y mae yn awr?" "Gwir iawn, Syr, felly y mae y peth yn bod. Yr oedd Cristionogaeth bob amser yrun: ond darfu i'ch eglwys chwi eillychwino a'i baeddu dros oesoedd mewn modd gwarthus iawn. Yn amser y Diwygiad golchwyd hi yn lân drachefn; ac yn awr y mae i'w chael lle yr oedd yn y dechreuad, sef yn y Bibl." Ni chaniatteir yn yr Eidal i Brotestant lenwi un math o swydd yn y llywodraeth; a gwaherddir iddo ef addoli ei Greawdwr yn ol cyfarwyddyd ei gydwybod. Y cyfryw yw Pabyddiaeth yn ei lle genedigol! Saethwyd eryr yn ddiweddar yn agos i Brighton, gan un Mr. Mockett. Mesura saith troedfedd a thair modfedd o flaen un aden i flaen y llall; a thair troedfedd a phedair modfedd o'i big i'w gynffon: ei liw sy led dywyll. RHAGFYR, 1828. Tir i'r Tlawd.---Ymddengys oddiwrth y Newyddiaduron fod Iarll Cardigan wedi cyfrannu hanner erw o dir i bob dyn tlawd ym mhlwyf Dean Thorpe, i'r diben iddynt ei drin. Deallwn hefyd fod ei Arglwyddiaeth yn bwriadu cyfrannu 12 erw ym mhlwyf Glapthorn, yn agos i Oudley, i'r un rhyw ddiben. Deallwn i un Mr. Parker, crochenydd o Shelton, swydd Stafford, yr hwn a fu yn anffodus yn ei fasnach yn 1839, ychydig yn ol dalu i bawb o'i ofynwyr y cwbl ag oedd ef yn ddyledus iddynt, yn agos i 3000 o bunnau! Ei gariad at onestrwydd a'i cymmellodd i wneuthur hyn, nid oedd gan neb, yn ol y gyfraith, hawl i ofyn dimai iddo. Gwelwn mor werthfawr yw gonest rwydd a diwydrwydd pan gyd gyfarfyddont, a chofiwn mai "Ilaw y diwyd a gyf oethoga." Yn Yr Adgyfodwyr.-Ymddengys yr hanes digrif canlynol mewn amryw Newyddiaduron fel digwyddiad a gymmerodd le yn agos i Hull, Sir Gaerefrog:-Gwr ieuangc wrth ddychwelyd adref o garu ychydig wedi hanner nos, ac yn myned heibio yr Eglwys, a welodd drol a cheffyl wrth lidiart y fynwent. Gan dybied nad oedd pob peth yn iawn, ond bod rhyw rai yn afonyddu trigolion distaw y bedd, ymguddiodd i edrych beth a welai. Ym mhen ennyd, yn unol â'i dybiau, canfu ddau ddyn yn dwyn corphyn, ac yn ei gyfodi i'r drol, gan ei osod ar ei eistedd a'i ben i fynu, am yr hwn y rhoddasant amben, a rhwymasant gob o gwmpas y corph, i'r diben, fel yr ydys yn meddwl, i neb sylwi arnynt. Ar ol iddynt osod y corph yn y dull uchod yn y drol, dychwelasant i lenwi i fynu y beddrod yn dra gofalus, fel ag yr oedd o'r blaen, rhag i neb wybod fod dim wedi bod yno. y cyfamser, beth a wnaeth y gwr ieuangc ond myned a symmud y corph i le diogel, a rhoi ei hun yn y drol yn yr un dull ag y rhoddasant hwy y corph, gan rwymo yr hen gob am dano, a gwisgo yr un amben. Pan orphenodd y lladron eu gorchwyl efo 'r bedd, dychwelasant at yr yspail, fel y tybiasant; a dechreuodd un o honynt deimlo yr ysglyfaeth; ond gan dynnu ymaith yn frawychus, efe a alwodd ar y llall, gan waeddi, "Dyn byw, John, mae yn dwym etto!' Ar hyn, y llange, gan arafgodi, a attebodd, "Ie, ac mi a'ch twymnaf chwithau hefyd." Ymaith yr aeth y dihirwyr ar ffrwst mewn dychryn, gan adael y drol a'r ceffyl ar ol, pa rai sydd ym meddiant y llange etto. Dychwelwyd y corph i'w orweddle tawel, ym mha le diammeu yr erys i ymgymmysgu â'i gydlwch heb ei aflonyddu hyd ddydd-brawd. Bbb Arian ffugiol.-Ychydig ddyddiau yn ol, daliwyd gwr a gwraig yn Lle'rpwll ar y weithred o liwio ffug arian, i'w dosparthu ar hyd y wlad yn lle sylltau a hannercoronau. Danfonwyd hwynt i garchar i gael eu proti yn y Sessiwn nesaf. Cymmerwyd hefyd yn ddiweddar ddwy gist fechan, yn llawn o'r un fath ffug arian, gan Swyddogion Manchester, wedi eu cyfarwyddo at fenyw o'r dref honno. Y mae'n dra thebygol fod cryn lawer o'r cyfryw arian wedi eu taenu ar hyd y wlad. Rhybuddiwn ein cyfeillion i fod ar eu gwyliadwriaeth. Yr ydys yn deall fod Goruchwylwyr Eis teddfod Dinbych yn amcanu cyfodi Maen Coffadwriaethol, oddeutu deg troedfedd o uchder, yn y lle y cynnaliwyd yr Eisteddfod, ac ar y fan lle yr eisteddodd ei Frenhinol Fawrhydi y Dug o Sussex i edrych ar weithrediadau y Cyfarfod clodfawr hwnnw. Ychydig yn ol cafodd un o hedd-swyddogion Cheltenham achlysur i fyned i mewn i fwthyn yn y gymmydogaeth, ac wrth ganfod yno amryw ysgyfarnogod a chwningod, cyhuddodd berchenog y bwthyn o fod yn herw-heliwr (poacher), pan y cafodd ganddo yr atteb ysmala canlynol:"Duw a'ch cadwo chwi, Syr! yr ydym ni yn dal llawer iawn o'r pethau yna y nosweithiau tywyll hyn y mae 'r creaduriaid druain yn colli eu ffordd yn y tywyllwch, yn cwympo bendramwnwgl dros y creig MARWOLAETH IARLL LLe'rpwll. Bu farw y Pendefig anrhydeddus hwn bore dydd Iau y 4ydd o'r mis hwn (Rhag fyr) yn ei Blas a elwir Combe Wood, lle y preswyliodd er ei ymadawiad â Llundain pan darawyd ef â'r parlys. Ni bu dim cyfnewidiad yn iechyd ei Arglwyddiaeth i beri i'w berthynasau ofni fod ei ddiwedd mor agos, hyd o fewn ychydig cyn ei farwolaeth. Bwyttaodd ei foreufwyd fel ar ferol; ond oddeutu hanner awr wedi naw o'r gloch y bore daeth rhyw lewygfeydd dirdynnol arno yn dra disymmwth. Gyrwyd yn ebrwydd am Mr. Sandford, un o feddygon ei Arglwyddiaeth, yr hwn oedd yn byw yn y gymmydogaeth; ond cyn iddo gyrhaeddyd, yr oedd ei yspryd wedi esgyn at yr hwn a'i rhoes ef. Yr oedd ei Arglwyddiaeth yn y 60fed flwyddyn o'i oed. 66 GWALLAU.-Rhif. 75. tu dal. 322, llin. 46, col. 1. yn lle "Arab ag oedd," dar. " Arab a oedd."--Tu dal. 324, llin. 30, col. 1, yn lle "wewyd," dar. "weuwyd."-Tu dal. 333, llin. 29, col. 2, yn lle "yr Esgob Bede," dar. “ yr hybarck Bede."-Tu dal. 336, Ilin. 7, col. 1, yn lle "drwg," dar. " drwy."-Tu dal. 338, yn llin. 4. o'r nod yn ngwaelod y ddalen, yn lle "dorri eu meistriaid,” dar. “ dorri a'u meistriaid.” Galar-Gofiant y Bardd wrth ymweled Atteb i'r Pennillion a gyfansoddwyd 93 188 à Bedd ei Wraig 218 Hiraeth am yr Hen Wlad 220 Methiant y Pabyddion Myfyrdod yr Afradlon Awdl Galargwyn am Edmund Llwyd, Bedd-argraph Boddlonrwydd.. Brawdgarwch ..... Cofia fi Cwyn y Tylodion.......... Cynghor Meddwyn i'w Fab ........ Cywydd Marwnad y Parchedig O. Marwnad Col. Bulkeley.... 217 Dedwyddwch y Nefoedd .... Nos Sadwrn Madog o Fwth Rhos y Olaf Rosyn yr Haf-ddydd Pader Nos Pennillion i'r Gwyliedydd. y Groes ar Farwolaeth y Parch. R. Parry, Eglwys Fach Brawd Cwynfan Chwaer ar ol ei Pennillion a gyfansoddwyd ar Ymad- Tri Englyn i Mrs. Parry, Ruabon 61 371 218 253 219 371 27 Y Môr Coch.. 59 i Diorama Llynlleifiad.. 27 Howel Llwyd, Ysw. ..... Ionawr ... Coffadwriaeth am Dafydd Deddf yn yr aelodau yn meddwl. .... yr Haf Claddedigaeth y Marw 347 Cofiant Mr. W. Williams, Llandegai, .... Cofrestr o Eiriau Cyffredin yn y De- Cyfarchiad Gweinidog Iver i'w Blwyf- olion .... 207 135 Cyfarwyddyd i olchi a chneifio Defaid 183 Daeargryn yn Bogota ..... 119 181 96 142 i Dwll Mŵn Bron y Gadair 218 phwysfa a draddodwyd ar Agoriad Dirnadaeth Hydred Llong ar y Môr.. 64 aw gwahanawl rannau anian .... 369 336 330 115 253 Dydd Nadolig · Dydd Sul yn y Wlad ... 17, 18, 1828 314 .... i Olwyn Ddwfr Maes y Safn 281 -i annerch J, Owen, o Graf- nant 282 Emyn Nadolig... .... 373 374 283 Emyn i Dydd Gwyl yr Holl Saint -o ddiolchgarwch am y Cynhauaf ib. .... 348 372 Emynau ar Enedigaeth Crist... Chwaer Galarwyr Llog ..... Gofyniad a'i Attebiad Gwyl Mihangel a'r Angylion 270 24, 86 120 182 201 262 95 |