페이지 이미지
PDF
ePub

unig yn fwy, ond hefyd yn bwysicach ac anhawddach na'r hyn sydd eisoes wedi ei gwblhau. Nis gall neb lai na gobeithio am i'r awdwr llafurus a chydwybodol gael hamdden ac arbediad oes i orphen ei esboniad gwerthfawr.

Yn wir

Fe welir fod pris y cyfrolau a gyhoeddwyd yn dra uchel. rhaid i ni ddyweyd, er mor olygus yr argraffwaith, ac er mor odidog y gwaith, ei fod yn llyfr anarferol o ddrud. Y mae yn wir nad yw wedi ei gymhwyso na'i fwriadu yn llyfr poblogaidd, ac felly nis gall ei gylchrediad fod yn fawr. Rhydd hyn gyfrif i raddau am fawredd ei bris. Gresyn fod llyfrau mor ddrudion. Nid yw yn bosibl i'r cyffredin gael ond ychydig o honynt yn feddiant personol. Ond nis gall nac awduron na chyhoeddwyr ddim wrth hyny yn y cyffredin. Dyna yw trefn Rhagluniaeth; oblegyd y mae llyfrau mor ddrudion i'w cynyrchu fel nas gellir fforddio eu gwerthu yn rhad. Fe ofalodd Rhagluniaeth, er hyny, am roddi un fantais o ochr ymborth y meddwl rhagor ymborth y corff. Wedi i ddyn fwyta llyfr, nid yw yn ddim llai; a gall wasanaethu i ddegau yr un cystal wedi hyny. Ymddengys i ni fod hyn yn awgrym nad eiddo personol y bwriadodd Rhagluniaeth i lyfrau fod; ond eiddo cymdeithasol, i gael eu pwrcasu gan gymdeithas, a'u cadw mewn llyfrgell gyhoeddus at wasanaeth y cyhoedd.

Mewn perthynas i gwblhad ei waith, fel y canlyn y dywed ein hawdwr yn ei Ragymadrodd :

"Oddiwrth fy narllenwyr, a'r sawl a gymerant ddyddordeb yn y gweithiau hyn, yr wyf yn ofni y rhaid i mi yn awr hawlio peth goddefgarwch mewn perthynas i gyflymder fy llafur yn y dyfodol. Tra yr anturiaf gynyg iddynt fy sicrhad gostyngedig, nad oedir cyhoeddi y cyfrolau hyn, os arbedir fy mywyd a'm hiechyd, ni ddylwn gelu y ffaith fod y dyledswyddau, i'r rhai y gwelodd Duw yn dda fy ngalw, y fath fel ag i achosi o angenrheidrwydd i ymddangosiad esboniadau dyfodol gymeryd lle mewn ysbeidiau ychydig yn hwy. Yr wyf yn teimlo yn sicr y cytuna y rhai a wyddant oreu am efrydiaeth o'r fath, fod yn anmhosibl prysuro y cyfryw weithiau; ac ychwaneg, yr wyf yn argyhoeddedig y bydd i bob meddyliwr difrifol gydweled a'm golygiad, nad oes unpeth am yr hwn y rhaid i ysgrifenydd ateb o flaen brawdle ofnadwy Duw gyda manylwch mwy arswydus, nag am geisio egluro geiriau tragywyddol y bywyd gyda brys, neu fyrbwylldra."

Dengys ei Ragarweiniad gydgordiad hapus iawn o feirniadaeth lem, a duwiolfrydedd gostyngedig. Dengys yr anghymeradwyaeth lwyraf o'r ysbryd anffyddol sydd yn trwytho athroniaeth boblogaidd y dyddiau hyn yn Lloegr; ac ar yr un pryd, tosturia wrth y rhai sydd yn coleddu y cyfryw syniadau, heb allu canfod dysgleirdeb digwmwl y Gwirionedd Dwyfol.

Nis gall y Rhagarweiniad lai na bod yn dra gwerthfawr i bob efrydydd, yn gymaint a'i fod yn cynwys cyfeiriad at y llyfrau goreu ar ddeongliadaeth ysgrythyrol, a sylwadau beirniadol arnynt. Y mae y sylwadau canlynol hefyd, ar y dull o efrydu yr ysgrythyrau, a phynciau yn gyffredinol, yn bwysig a thra gwerthfawr:

"Cyn gadael y pwnc pwysig hwn (Ysbrydoliaeth y Beibl) dymunwn ddadleu ei bwysfawredd mewn perthynas i'r gyfundrefn o esboniadaeth, yr hon yr ymdrechais ei dilyn. Gwn yn dda fod llifeiriant y mympwy cyhoedd (public opinion) yn awr yn rhedeg yn gryf yn erbyn manylion ac ymchwiliadau gramadegol. Yr wyf yn meddwl fod lluaws yn credu, y dichon i gymysgiad helaethach o hanesiaeth, cyffrediniaethau (generalizations) eangach, ac ystyriaethau mwy awgrymiadol, alluogi yr efrydydd i

ddilyn rhediad ei awdwr, ao i gael ei gario yn siriol yn mlaen, heb y blinder a'r llafur sydd yn nglyn â theithio cyffredin. Nid anturiaf gyhoeddi barn ar iachusrwydd y cyfryw ddamcaniaethau mewn ystyr gyffredinol; nid Athanasius mo honof, ac nis gallaf wynebu y byd; ond yn nghylch neillduol yr Ysgrythyrau Santaidd, efallai y caniateir i mi ddyweyd, os ewyllysiwn ddwyn i fyny ein hefrydwyr ieuainc i fod yn feddylwyr gostyngedig, Cristionogion difrifol, a duwinyddion iachus, rhaid i ni eu harfer i efrydu geiriau ac iaith yr ysgrythyr yn amyneddgar a phwyllog, cyn goddef iddynt ymgymeryd ag esboniadaeth, i'r hon y maent yn anaddfed ac analluog. Os yw yr ysgrythyrau yn Ddwyfol ysbrydoledig, yna, yn ddiau, gorchwyl godidocaf gwr ieuane yw sylwi yn amyneddgar a serchog ar bob cyfnewidiad mynegiant, pob lledneisrwydd iaith, pob amrywiaeth treigliad, a dadansoddi, ac ymchwilio; i wrthgyferbynu a chymharu, nes iddo gyrhaedd rhyw wybodaeth gywir o'r elfenau allanol hyny, y rhai a drwythwyd gan ddylanwad a galluoedd mewnol Ysbryd Duw. Pan yn llafurio i olrhain allan y gwahanredion dirgel fo yn gorwedd odditan rhyw fanyn dyddygol (illative particle), neu yn nodweddu rhyw arddodyn amheus, calonoged ei hunan gyda'r ystyriaeth fod pob ymdrech meddwl y galluogir ef i'w wneuthur, drwy fendith Duw, yn gam tuag at feddyliau apostol; ïe, i ganfyddiad llai tywyll o feddwl Crist."

“Ni chaniata neb, fyddo yn teimlo yn ddwfn ar bwnc Ysbrydoliaeth, iddo ei hun gael ei hudo i ddifaterwch mewn perthynas i'r dyddordeb cyfrin sydd yn nglyn ag hyd y nod Ramadeg y Testament Newydd."

Nis gall un dyn ag sydd yn hoff o'i Feibl lai na pharchu a charu dyn a all broffesu syniadau cyffelyb i'r rhai uchod. Mor wahanol yw ei olygiadau i eiddo rhai gwrageddos yn Nghymru o berthynas i wybodaeth o'r iaith Roeg! Yn lle ei gwawdio a galw enwau drwg arni, dengys efe ledneisrwydd teimlad, a choethder chwaeth, drwy barchu hyd y nod wisg y Dadguddiad Dwyfol. Beth a feddylid o fam a ddarniai ac a fathrai wisg ei baban marw? Y mae cariad yn cysegru pethau sydd ynddynt eu hunain yn ddibwys a diwerth, ac arwydd o anwybodaeth a diffyg chwaeth ydyw llefaru yn ddiystyrllyd am y peth distadlaf a berthyna i wrthddrych ein serch. Pe na byddai dim ond yr ystyriaeth yma yn eu cymhell, dylai efrydwyr ein hathrofâu aberthu peth o'u diogi er mwyn cyrhaedd ychydig adnabyddiaeth o'r ieithoedd cysegredig. Heblaw hyny, nis gallant byth ddeall esboniadau beirniadol, tebyg i'r un sydd dan ein sylw, heb fedru ychydig o'r iaith wreiddiol. Nis gallwn ddysgwyl iddynt ddyfod yn ddigon hyddysg i feirniadu y testyn gwreiddiol drostynt eu hunain, nac i gyfansoddi esboniadau arno, ond yn bendant ni ddylent wrando ar anwybodusion yn ceisio eu darbwyllo i beidio cymhwyso eu hunain i allu defnyddio pob math o esboniad, ac i werthfawrogi pob llyfr a ysgrifenir er cynorthwyo yr efrydydd Beiblaidd.

Yr hyn sydd yn nodweddu yr esboniad hwn yw ei fanylder gyda phob gair ac ymadrodd. Yn wir, y mae yn manylu cymaint ar ambell ran fel y mae yn anhawdd i ddyn cyffredin weled y gwahaniaeth a geisia ei ddangos rhwng dau olygiad. Gall yr anghyfarwydd feddwl fod y fath fanylwch yn ddiangenrhaid ac ynfyd; ond camgymeriad mawr yw hyny. Yr oedd yr awdwr yn gweled y gwahaniaeth yn eglur, ac yn ei ystyried yn bwysig; a phe byddem ninau yn gymaint ein gwybodaeth, ac mor glir ein dirnadaeth ag ef, fe welem ninau y mater yn yr un goleuni. Un o alluoedd cryfaf anwybodaeth yw cymysgu pethau gwahanol, ac un o ragoriaethau dysgeidiaeth yw gwahaniaethu rhwng pethau. I anwybodaeth gall gwahaniaethad ymddangos yn

fychan dibwys, tra i ddyn cyfarwydd yn y pwnc, pa beth bynag a fyddo, yr ymddengys yn gagendor eang, ac yn hanfodol bwysig.

Nid wyf yn meddwl fod yr awdwr, yn y gyfrol hon, wedi rhoddi y fath oleuni newydd ar destyn yr ysgrythyr fel ag i gyfnewid ein golygiadau am yr un o athrawiaethau mawrion Cristionogaeth. Nid wyf yn meddwl y llwydda unrhyw esboniwr na beirniad byth i wneud y fath beth. Ond fe ddichon y cymerir ambell adnod oddiar y naill blaid, ac y trosglwyddir hi i ategu golygiadau plaid arall. Efallai y ceir goleuni newydd ar lawer hen athrawiaeth anwyl; ond y gwasanaeth pwysicaf a all y math yma o esboniadaeth wneud yw, rhoddi hyder yn mhawb fod ganddynt hwy wir feddwl a geiriau yr ysgrifenwyr ysbrydoledig. Bydd gan ddyn, mewn canlyniad, well hyder i sylfaenu athrawiaethau ar wahanol adnodau, ac i dynu casgliadau ymarferol priodol oddiwrthynt.

in

[ocr errors]

Dangoswn bellach pa fodd y mae ein hawdwr, yn yr ysbryd rhagorol a ddarluniwyd uchod, yn cymhwyso ei egwyddorion esboniadol at bwnc neu ddau perthynol i'r epistol. Gan fod y Cymry yn enwog am eu cenedlgarwch, dewiswn, i ddechreu, baragraff sydd yn dal cysylltiad a'r hen genedl, ac yn profi fod y rhan hon o'r ysgrythyr wedi ei hysgrifenu at gangen o'r hen gyff Celtaidd. Gwyr y cyffredin am y ffaith mai rhai o hen Gymry Gal neu Ffrainc oedd y Galatiaid o ran eu tarddiad. Fel hyn y dywed ein hawdwr ar y pwnc yn y Rhagarweiniad :

"Cyfeiriwyd y llythyr at eglwysi talaeth Galatia, trigolion yr hon a allent ymffrostio, nid yn unig mewn tarddiad Galaidd, ond hefyd, fel yr ymddengys, a gadwasant rai o nodweddion y cymeriad Galaidd.”

Ac eto yn ei esboniad ar y chweched adnod o'r benod gyntaf

"Y mae Grotius yn priodol ddyfynu, mewn perthynas i'r anwadalwch a nodweddai y Galiaid, ddywediad Caisar, (Bell. Gall. IV. 5) Y mae y Galiaid yn ansefydlog yn eu cynghorau, a chan mwyaf yn awyddus am chwyldroad.' Cymharer ib. II. 1, III. 10, 19. Gwel Elsner, Observ. Sacr. vol. II. p. 172.”

Eto, ar yr adnod gyntaf o'r drydedd benod—

**Q'avóŋtoi гaλ.] Witless Galatians '—' Y Galatiaid disynwyr;' cymhwysiad angerddol a digofus o ganlyniadau yr ymresymiad blaenorol at gyflwr ei ddarllenwyr. Defnyddir yr ansoddair 'avonros mewn tri man arall gan Paul-Rhuf. i. 14, yn wrthgyferbyniol i σopós; 1 Tim. vi. 9, yn gysylltiedig â Bλaßepós; Tit. iii. 3, gydag απειθής 2 πλανωμένος ; ac yn yr holl enghreiftian ymddengys fod y gair yn dynodi, nid yn gymaint ddylni yn y vous (insensati Vulg.) ond yn hytrach ddiffyg meddwl, Deu ymarferiad annigonol o'r vous. Cymh. Syr. (destituti meute) â Luc xxiv. 25, lle, tra y dynoda βραδὺς τῇ καρδια ddifyg yn y galon, ymddengys fod ανοήτος yn golygu diffyg yn y pen. Cymh. Tittm. Synon I. p. 144, lle y darnodir y gair hwn braida yn gelfydaydol, ond y gwahaniaetbir yn gywir rhyngddo ag ἄφρων ac ἀσύνετος, y rhai a gyfeiriant yn hytrach, y naill at ddiffyg synwyr, a'r llall at arafwch deall." "Gan hyny, nis gellir dyweyd (gyda Brown) fod y Galatiaid yn ddiarebol ddisynwyr; cymh. Callim. H. Del. 184, à¢povi púλw. Dyry Themistius, yr hwn a dreuliodd ei hunan beth amser yn y dalaeth, (eang y pryd hwnw, Forbig. Geogr. vol. II. p. 364) iddynt gymeriad tra gwahanol, o' dè, &c. Cyflymder ac ansefydlogrwydd, fel y dengys yr Epistol, (cymh. nod. ar pen. i. 6) oedd wir nodweddion y Galatiaid. Rhaid fod ffolineb yn fynych, fel yn yr amgylchiad presenol, yn ganlynydd eithaf naturiol.

vμãs ¿ßáoкavev] "A'ch llygatynodd chwi." Vos fascinavit Vulg., Clarom. Tardda y prifair Baoraivw o Bálw, Banko (Pott, Etym. Forsh. vol. I. p. 271), ac a ddynodai, efallai, yn wreiddiol niweidio â thafod drwg.' (Cymh. Benfey, Wurzellex, vol. II. p. 104). Yma, modd bynag, cyfeirir yn hytrach at ddylanwad rheibiol y ' llygad drwg,' (cymh. Ecclus. XIV. 8, Baokαivwv opaλuy, a gwel Elsner in loc., Winer R. W. B. Art. 'Zauberei ') er nad o angenrheidrwydd 'lygad drwg eiddigedd,' (Chrys.; cymh. Syr.) gan fod ẞaok yn yr ystyr olaf hon yn cael ei ddefnyddio yn y cyffredin gyda 'Dodai' (Dative) (ond yn Ecclus. XIV. 6, Ignat. Rhuf. 3 gyda "Gwrthrychai' (Acc.)) Gwel Lobeck, Phryn. p. 462; Pierson, Herodian, p. 470. Gwrthodir yr ychwanegiad rỷ ảλŋleiã μñ ñéíoεodai [Rec. gyda C D3 E2 K L; MSS.; Vulg. (ond nid yr holl MSS. Syr. Phil., Æth (y ddau), al.; Ath. Theod.] yn briodol gan y rhan amlaf o feirniaid diweddar, yn gystal am ei fod yn ddiffygiol mewn awdurdod allanol [wedi ei adael allan o A, B, D1, E1, F, G, ; 2 MSS.; Syr. a bron yr holl Vv] ag am ei bod yn debygol mai eglurair yw allan o'r P.V.y."

Efallai mai yr hyn a dery y cyffredin gyntaf yn null ein hawdwr o esbonio yw ei gyfeiriadau llawn a mynych at awdurdodau. Y mae hyn yn ei wneud yn sych ac annifyr i'w ddarllen, ac yn ddigon i beri i rai ei daflu o'r neilldu fel ysglodyn. Y mae ein hawdwr ei hunan, yn ei ragarweiniad i'r epistol at yr Ephesiaid, yn beio ereill, ac yn neillduol Eadie, am rywbeth cyffelyb. Y gwahaniaeth yw hyn, fod Eadie yn cyfeirio yn rhy gyffredinol at awduron heb nodi y tudalen lle y ceir yr ymadrodd mewn golwg, a'i fod yn llinynu rhes o enwau yn nghyd o blaid ac yn erbyn ei olygiadau, ac nad ydynt, er hyny, ar ol troi atynt, bob amser yn taflu un goleuni pwysig ar y pwnc mewn dadl. Buom ninau yn teimlo yr un peth lawer gwaith wrth ddarllen Barnes ac esbonwyr poblogaidd ereill. Cyfeiriant ni i ryw ran arall o'r gwaith, ond erbyn troi yno ni bydd dim mwy o eglurhad i'w gael nag o'r blaen. Nid yw y cyfeiriadau ar ymyl dalenau ein Beiblau nemawr gwell na'r adnodau y cyfeirir atynt yn ein holwyddoregau. Delir ar ryw air a ddygwyddo fod mewn adnod, a chyfeirir at yr adnod fyddo yn ei gynwys pa un bynag a fyddo yn dal perthynas a'r pwnc ai peidio.

Buom yn teimlo yn ddig wrth lawer hen awdwr hefyd ar gyfrif ei gyfeiriadau mynych at awduron hollol o'r tuallan i'n hadnabyddiaeth a'n cyrhaedd ni, ac yn enwedig at awdwr athrylithgar "Drych y Prif Oesoedd." Ond mewn perthynas i Theophilus Evans ac Ellicot, yr ydym yn meddwl mai hwy sydd yn eu lle, ac mai ynom ni mae y diffyg na baem yn gallu gwerthfawrogi eu cyfeiriadau. I ddyn fyddo am ddifyrwch yn hytrach nag adeiladaeth, ac am wybodaeth arwynebol a phoblogaidd yn hytrach nag un drylwyr a dofn, nid oes dim yn fwy blin na chyfeiriadau dibaid. O'r ochr arall, i wir ysgolaig ac efrydydd, a fyddo am chwilio o ddifrif i sail pob pwnc, ac am gael boddlonrwydd hollol i'w feddwl ar bob cwestiwn, nid oes dim yn fwy diflas na darllen rhes o haeriadau diawdurdod, heb un cyfeiriad at ffynonell y dystiolaeth, neu gyfeiriadau dibwynt ac anmhriodol. Yn yr olwg yma, dywedwn mai un o nodweddion gwerthfawrocaf esboniad ein hawdwr yw cyflawnder o gyfeiriadau cywir, i'r pwynt, ac at y pwrpas.

Rhoddwn yn nesaf engraff o'i ddull yn trafod ymadrodd tywyll. Y mae yr ymresymiad a ddefnyddia yr apostol yn yr unfed adnod ar bymtheg o'r drydedd benod, yr hwn sydd yn troi ar y gwahaniaeth rhwng "had" a "hadau," wedi peri cryn ddyryswch i esbonwyr. Fel hyn y sylwa ein hawdwr:

"16. r de 'Aẞpaáμ. "Yn awr i Abraham." Ymresymiad rhwng eromfachau, a fwriedir er gwneud cymhwysiad yr esiampl neillduol hon at y mater cyffredinol yn berffaith eglur, ac felly osgoi pob camddealldwriaeth. Fel pe byddai yr apostol yn dyweyd, Nid yw hyn, fodd bynag, yn fater o dialhen (cyfamod), ond o Tayyɛλía (addewid)—ie, o érayyeλiai, ac nid i'r dyn Abraham yn unig y gwnawd ef, ond í Grist.' Yn ol y deongliad arferol, y mae de yn arwain i mewn y gosodiad lleiaf (prop. minor) o'r cyfresymiad (syllogism), yr hwn a darfir gan yr eglurhad cromfachog οὐ λέγει-Χριστός, ond a gymerir i fyny drachefn yn adn. 17, 'atqui Abraamo et semini, &c.' Herm. Ond i hyn, modd bynag, ymddengys gwrthwynebiad Meyer yn eithaf cywir, y rhoddasai yr apostol, yn ddiamheu, fwy o bwysigrwydd rhesymegol i natur ddwyfol yr addewidion i Abraham, drwy ymadrodd cyffelyb i Duw a addawodd,' ac nid llefarwyd yr addewidion.' Gwel Alf. in loc. αἱ ἐπαγγελίαι] 'yr addewidion;' lluosog, gan eu bod wedi eu hail-adrodd lawer gwaith (Est), ac wedi eu gosod mewn ffurfiau gwahanol o ymadrodd; cymh. Gen. xiii. 15, xv. 18, xvii. 8, xxvi. 4, xxviii. 14. Cynwysent, fel y sylwa Bengel yn rhagorol, nid yn unig fendithion daiarol ond hefyd rai nefol, 'terrae Canaan et mundi et divinorum bonorum omnium." oedd y rhai blaenaf mewn modd neillduol yn y dyfodol, a'r olaf yn yr ail-ddyfodol. Ar wir natur ysbrydol yr addewidion hyn, gwel Hengstenberg, Christol. vol. I. p. 38 (Clark).

Yr

"Y ffurf Ionaidd 'eppéonoav (a elwir felly o leiaf) sydd iddi gefnogaeth yr ysgriflyfrau bras-lythyrenog (uncial manuscripts) goreu, a mabwysiedir hi gan y mwyrif o'r golygyddion diweddar. Gwel Lobeck, Phryn. p. 447. Rec. a ddyry 'Epphonoav, ond gyda D3 E K L yn unig. Kaι τ σñéρμari aurou] 'ac i'w had;' yn bwysleisiol, fel yn cyfeirio at Grist, ac yn ffurfio megys pris (fulcrum) yr ymresymiad sydd yn dilyn. Y rhanau o'r ysgrythyr y cyfeirir atynt yma ydynt yn berthynasol, Gen. xiii. 15, a xvii. 8, ond nid Gen. xxii. 18; felly Iren. v. 32; Origen ar Rhuf. iv. vol. V. p. 276 (ed. Lomm.) Gallaf orphwys yma i sylwi ar y rhyddid mawr gyda'r hwn y caniataodd cynifer o esbonwyr iddynt eu hunain nodweddu ymresymiad St. Paul un ai yn arwynebol ('Schulkunst,' Ewald) neu Rabbinaidd, (Mey. ; cymh. Surenhus, B.ß. Karaλλ. p. 84) neu fel yr anturiodd Baur, Apost. Paul, p. 665, haeru, 'yn eglur fympwyol ac anghywir.' Gall fod yn wir fod ymresymiadau cyffelyb yn dygwydd mewn ysgrifenwyr Rabbinaidd (Schoettg. Hor. Hebr. vol. I. p. 736); gall fod yn wir fod σreρμa (fel 1) yn Enw Cynulliadol, a phan ddefnyddir y lluosog, fel yn Dan. i. 12, mai 'gronynau o had' a olygir. Gall hyn oll fod yn wir; er hyny y mae genym yma esboniad yr hwn a gyhoeddodd Apostol yn bwyllog, tra yn ysgrifenu o dan gyfarwyddyd yr Ysbryd Glan, a'r hwn o ganlyniad (pa anhawsderau bynag a ymddangosent ar y cyntaf ynddo) sydd yn gywir yn y modd mwyaf trwyadl a dilys. Rhaid i ni, yute, ddal fod mor sicr o fod ystyr gyfriniol i ddefnyddiad yn Gen. xiii. 15, xvii. 8, ag fod dadl dros yr adgyfodiad yn Exod. iii. 6, er nad oedd yr ysgrifenydd o angenrheidrwydd yn ymwybodol o hono yn y naill amgylchiad mwy na'r llall. Fel y mae r yn ei ystyr syml yn gyffredinol (oddigerth Gen. iv. 25, 1 Sam. i. 11) yn golygu nid yn unig hiliogaeth dyn, ond ei hil yn yr ystyr o gyfangorff unedig; felly yma, yn ei ystyr gyfriniol golyga nid disgynyddion

« 이전계속 »