페이지 이미지
PDF
ePub

Am heddwch hwylia di
Dros foroedd bywyd,
A chais am orphwys draw
Ar lanau gwynfyd;
Dy fordaith arw, drist,
Cyn hir orphena,
Pan wrthyt dywed llais,
Mae heddwch yma.

Tu hwnt i forlif byd
Ceir bythol gartref;
Ni chwyth un awel groes
Drwy fro y tangnef.
Gadewi'r croesau blin
O'th ol yn gryno,
Pan sengi'r nefol fro-
Mae heddwch yno.

WILLIAM EWART GLADSTONE.

Nid

MAE hanes gwledydd a chenedloedd penaf y byd yn gynwysedig, i raddau helaeth, o hanes nifer o bersonau nodedig a berthynant iddynt. Mae hanes Hampden, a Cromwell, a Milton am gyfnod pwysig yn gyfystyr a hanes Lloegr. Mae hanes Ffrainc, a'r rhanau pwysicaf o gyfandir Ewrop, am ugain mlynedd yn gynwysedig yn hanes Napoleon Bonaparte; a hanes pwysicaf Unol Daleithiau America yn hanes Franklin a Washington. Nid oes amheuaeth nad oes gan y lluaws ran helaeth yn amgylchiadau pwysicaf pob cenedl, ond y mae enwau y lluaws yn suddo o'r golwg yn fuan, tra nad oes ond enwau ychydig o bersonau nodedig yn nofio o oes i oes ar wyneb afon hanesiaeth. gan ychydig enwogion y byd y gwnaed amgylchiadau eu hoes, ac nid gan yr amgylchiadau y gwnaed y dynion. Yr oeddynt hwy yn angenrheidiol i'r amgylchiadau, a'r amgylchiadau yn angenrheidiol iddynt hwythau. Mewn amgylchiadau neillduol yn unig y gallesid gwneud yr hyn a wnaed gan Cromwell; ac nis gallasai neb ond Cromwell, neu rywun tebyg iddo, wneud yr hyn a wnaed ganddo. Peth anhawdd ydyw gwneud hanes. Y mae genym haneswyr lawer, ond ychydig mewn cymhariaeth sydd yn meddu ar y ddawn angenrheidiol er adrodd hanes yn briodol. Llai o lawer ydyw rhifedi y rhai a gynysgaethwyd

a gallu i wneud hanes.

Ar yr amser y gwthiwyd yr Hercules i'r môr-yr Hercules ydyw un o'r llongau a adeiladwyd yn ddiweddar gan ein llywodraeth, a'r gadarnaf o'r holl longau rhyfel-pan orphenwyd hi, darluniwyd hi yn fanol a doniol gan ysgrifenydd galluog, ac yr oedd yr ymadroddion canlynol yn rhan o'r darluniad :-" Nid oes iddi ond wyth gwn, ond y mae pob un o honynt yn wneuthurwr hanes." Ein dymuniad ni am y gynau

hyny ydyw, iddynt gael gorphwyso am eu hoes mewn heddwch, heb un hanes ar eu hol, ond eu bod wedi costio i'r wlad swm mawr o arian. Pan oedd Napoleon wedi enill rhes o fuddugoliaethau, ac wedi cael Ewrop megys o dan ei fys, llawengyferchid ef gan ei gyfeillion yn wyneb ei fawr lwyddiant. Dywedai yntau mewn atebiad, "Nid yw hyn oll ond ychydig dudalenau yn hanes y byd." Ond y mae nifer o enwogion wedi dyfod i'r byd o dro i dro o bwrpas i wneud hanes. Gall Prydain ymffrostio mewn cyfran anrhydeddus o honynt. Gall ymffrostio yn ei beirdd, a'i hathronwyr, a'i hareithwyr, a'i duwinyddion, a'i hadeiladwyr, a'i pheirianwyr, a'i gwlad weinwyr. Mae dwy farn yn ffynu gyda golwg ar y dynion enwog sydd wedi bod yn y byd. Tybia rhai pe buasai yr hen enwogion ar y ddaiar yn yr oes hon, na buasent agos mor enwog, oblegyd fod y byd wedi dyfod yn llawer callach. Ond y mae ereill yn meddwl nad oes ac na ddaw byth mwyach neb cyffelyb mewn dawn a gallu i gedyrn y dyddiau o'r blaen. Y mae yn gof genym am wr ieuanc o fyfyriwr yn un o golegau Cymru, yr hwn a farnai yn onest a chydwybodol am dano ei hun, ei fod wedi dyfod i'r byd haner canrif, o leiaf, cyn ei amser. Pan dalai ymweliad a theulu, ni feddyliai neb am ei wahodd yno yr ailwaith. Pan ai yn ei gylch ar y Sabbath i bregethu i un o'r capelau cyfagos, nid oedd na diacon, nac aelod, na gwrandawr yn dywedyd wrtho ar ddiwedd y dydd, Cofiwch beidio bod yn hir cyn dyfod yma eto. A phan ymwelai ag eglwys wag, ni freuddwydiai na chall na ffol am foment am gynyg galwad iddo. Nis gallai y gwr ieuanc ddim llai na sylwi ar y pethau hyn. Ond yr oedd yn esbonio y cwbl yn fwy boddhaol iddo ei hun nag i ereill, trwy ddywedyd ei fod yn mhell o flaen ac uwchlaw ei oes. Perygl y lluaws yn y dyddiau hyn ydyw myned i eithafedd arall, trwy gredu fod oes y cawri wedi myned heibio, ac nas gellir gwneud dim mawr iawn yn y byd byth mwy. Nid oes amheuaeth nad ydyw lluaws tref a gwlad yn dyfod yn debycach i'w gilydd bob dydd, ac y mae yr athronwyr yn ofni y bydd pawb yn unffurf yn fuan, ac na bydd dim gwaith gan athroniaeth i esbonio eithriadau. Yn yr oesau gynt, personau oedd yn gwneud pethau mawrion. Cymdeithas sydd yn eu gwneud yn yr oes hon. Pwy a wnaeth yr Afon Newydd i ddyfrhau dinas Llundain? Syr Hugh Middleton. Ond os gofynir pwy a wnaeth yr Atlantic Cable, gellir ateb, cymdeithas yn gyffredinol; canys yr oedd cyfoeth, a gwybodaeth, a dyfais, a diwydrwydd oesau a chyfandiroedd wedi eu dwyn dan deyrnged i gwblhau yr orchest ddigyffelyb. Am dymhor, bu llywodraeth y wlad hon yn llaw y brenin, ond yn fuan, bu raid iddo ranu a'r pendefigion. Wedi hyny, daeth y dosbarth canoĺ i fewn am eu rhan, ac yn ddiweddaf, cafodd y bobl y rhan a ddygwyddai iddynt hwythau. Ofnid yn fawr y byddai i helaethiad yr etholfraint ddarostwng Ty y Cyffredin, gwneud yr holl aelodau yn gydradd, ac y darfyddai y cawri o'r tir. Nid ydym yn gwybod beth fydd yr effeithiau yn yr oesau a ddeuant; ond yr ydym yn dra sicr yn ein barn, na bu erioed yn Mhrydain brif weinidog galluocach na'r hwn sydd yn arwain Senedd y bobl yn y flwyddyn hon-WILLIAM EWART GLADSTONE.

Ganwyd Mr. GLADSTONE yn Rodney-street, Liverpool, yn y flwyddyn 1809. Rhyw ddwy flynedd ar ol hyny, ganwyd Mr. Cardwell yn yr un ty ac yn yr un ystafell ag y ganesid Mr. GLADSTONE. Yr oedd Syr

John Gladstone, tad prif weinidog presenol Prydain, yn farsiandwr mawr, a sonid am dano am flynyddoedd fel " asgwrn cefn Liverpool." Yr oedd ganddo longau lawer, ac yr oedd yn nodedig o ofalus am gysur y morwyr oeddynt yn ei wasanaeth. Clywsom un o honynt-cyfaill i ni ag y mae genym hyder hollol yn ei eirwiredd-yn dywedyd y byddai pob un o'r llongwyr ar ol dychwelyd yn cael ei alw o'r neilldu yn y swyddfa er mwyn gofyn iddo ddau gwestiwn. Yn gyntaf, a oedd ganddo rywbeth yn erbyn y llong; yn ail, a oedd ganddo ryw gwyn yn erbyn y cadben. Yr oedd y fath ofal a'r fath garedigrwydd yn werthfawr dros ben yn y dyddiau hyny, cynys nid oedd y llywodraeth y pryd hwnw yn gofalu nemawr am iechyd a chysuron y morwyr cyffredin. Bu Syr John Gladstone am flynyddoedd yn un o wrandawyr y Dr. Raffles. Clywsom weinidog nid anenwog, yr hwn a ddylasai wybod, yn dywedyd i Syr John Gladstone ymadael a chynulleidfa y Dr. Raffles oblegyd eu bod mor ddiymdrech i ddarparu addoldai ychwanegol ar gyfer y dref, poblogaeth yr hon oedd yn cynyddu mor gyflym. Profodd y barwnig ddidwyllder ei argyhoeddiadau ar y pen hwn trwy adeiladu tair neu bedair o eglwysi eang a chedyrn ar ei draul ei hun. Pan oedd WILLIAM EWART yn faban, symudodd y teulu i Seaforth House, lle o fewn ychydig filltiroedd i'r gogledd o Liverpool. Arferai Seneddwyr a gwladweinyddion dalu ymweliad a Seaforth House, a byddai GLADSTONE ieuanc, ac efe eto yn fachgen, yn dadleu a hwynt ar gwestiynau pwysicaf gwladyddiaeth a llywod-ddysg, ac yr oedd ei wybodaeth a'i ddawn yn peri syndod, ac yn cynyrchu edmygedd. Derbyniodd ei addysg glasurol yn Eton, ac aeth oddiyno i goleg Christ Church, Rhydychain, lle yr enillodd ei Double First-anrhydedd uchaf y Brifysgol. Yr oedd ei ddoniau mor nodedig a'i glod mor fawr, fel yr edrychid arno fel blaenor dyfodol y blaid Doriaidd cyn iddo orphen ei yrfa yn Rhydychain. Pan oedd yn dair ar ugain mlwydd oed, etholwyd ef yn aelod Seneddol dros Newark. Ni chafodd un drafferth i gael gwrandawiad yn Nhy y Cyffredin, canys yr oedd ei glod wedi myned yno o'i flaen; ac ni chafodd aros yno yn hir heb dynu sylw y gwladweinydd medrus, Syr Robert Peel. Yn y flwyddyn 1839, cyhoeddodd Mr. GLADSTONE ei lyfr rhyfedd ar y Wladwriaeth yn ei Chysylltiadau a'r Eglwys. Adolygwyd ef gan Macaulay yn yr Edinburgh Review. Yr oedd Macaulay y pryd hwnw yn mawredd ei nerth, a'r Edinburgh Review yn ei ogoniant. Bu Mr. GLADSTONE yn ffodus i gyhoeddi ei lyfr pan oedd yn ddigon ieuanc i newid ei farn, a gweled ei gamsyniadau; a thro ffodus iddo ef ac i'r wlad oedd i'r llyfr gael ei adolygu gan lenor o fri Macaulay. Mae yn ddigon tebyg nad oes yn yr iaith Seisnig adolygiad mwy rhagorol. Fel hyn y dywedai Macaulay am

awdwr y llyfr :

"Mae awdwr y gyfrol hon yn ddyn ieuanc o gymeriad difrycheulyd, ac o alluoedd nodedig fel Seneddwr, gobaith y Toriaid penderfynol ac ystyfuig, y rhai yn anfoddog a gwrthryfelgar a ddilynant flaenor, profiad a hyawdledd yr hwn sydd anhebgorol angenrheidiol iddynt hwy, ond a gashant ei dymher ochelgar a'i olygiadau cymedrol. Ni byddai yn beth hynod mewn un modd pe byddai Mr. GLADSTONE yn un o'r dynion mwyaf anmhoblogaidd yn Lloegr. Ond credwn nad ydym yn gwneud ag ef ond yr hyn sydd gyfiawn, pan ddywedwn fod ei alluoedd a'i ymddygiad wedi enill iddo barch ac ewyllys da pob plaid. Gau byny, y mae`ei ymddangosiad cyntaf fel awdwr yn am

gylchiad dyddorol; ac y mae yn naturiol i ddymuniadau caredig y cyhoedd i fyned gydag ef i'w brawf."

*

"Y mae yn dda iawn genym, yn annibynol ar gywirdeb neu anghywirdeb syniadau Mr. GLADSTONE, weled traethawd ystyriol a manol ar ran bwysig o athroniaeth llywodraeth, wedi ei ysgrifenu gan ddyn ieuanc, yr hwn sydd yn ymgodi mewn enwogrwydd yn Nhy y Cyffredin. Nid oes nemawr perygl y bydd i ddynion, yn nghanol ymdrechion bywyd gweithgar, i ymroddi yn ormodol i amcaniaeth gyffredinol. Y drwg cyferbyniol ydyw yr un parotal i'n hamgylchu. Gyda hyfrydwch, ond nid hyfrydwch digymysg yn sicr, yr ydym yn croesawi ymddangosiad y gwaith bwn. Mae yn glod mawr i wladydd ieuanc ei fod wedi mynu hamdden yn nghanol ei alwadau Seneddol, i gynllunio ac egluro, gyda llawer o efrydiaeth a llafur meddwl, athrawiaeth wreiddiol ar gwestiwn mawr mewn llywod-ddysg, ar wahan a phob ystyriaeth am gywirdeb neu anghywirdeb ei olygiadau. Yn sicr, nis gallwn ddymuno i olygiadau Mr. GLADSTONE ddyfod yn ffasiynol gyda dynion cyhoeddus. Ond yr ydym o galon yn dymuno gweled ei awydd canmoladwy ef i dreiddio yn is nag arwyneb cwestiynau, ac i gael gafael ar ddeddfau cyffredinol mawrion, trwy fyfyrdod hir a manol, yn fwy ffasiynol o lawer nag y gallwn o gwbl ddysgwyl ei weled.

"Mae yn ymddangos i ni fod Mr. GLADSTONE, ar lawer cyfrif, yn gymhwys i wneud ymchwiliadau athronyddol. Mae gafael mawr yn perthyn i'w feddwl, ac nid ydyw yn ddiffygiol mewn medr rhesymegol. Eithr nid ydyw yn gwneud chwareuteg a'i ddeall. Nid oes prinder goleuni, ond y mae prinder mawr o'r hyn a alwasai Bacon yn oleuni sych. Mae ei arddull yn dwyn cyffelybrwydd mawr i'w ddull o feddwl, ac yn wir yn dylanwadu yn gryf ar ei ddull o feddwl. Mae ei reitheg, er ei fod yn fynych yn dda yn ol ei rywogaeth, yn tywyllu y rhesymeg a ddylai egluro."

*

*

Mae llyfr Mr. GLADSTONE ar y Wladwriaeth a Chrefydd er ys blynyddoedd yn mysg y pethau sydd wedi myned heibio. Ychydig bellach sydd yn ei ddarllen, a'r ychydig hyny o gywreingarwch yn unig. Chwalwyd yr ymresymiadau yn hollol gan Macaulay. Cafodd Mr. GLADSTONE allan yn fuan, nad oedd un dyn cyhoeddus yn barod i wneud cymhwysiad ymarferol o'i athrawiaeth. Newidiodd ei olygiadau. Adroddodd hanes y cyfnewidiad yn ei farn mewn llyfr a gyhoeddwyd y flwyddyn ddiweddaf. Hwyrach yr ymddengys i'n darllenwyr fod y dyfyniadau a wnaethom o Adolygiad Macaulay allan o'u hamser, ac yn rhy adnabyddus i'w hailadrodd. Ond y mae genym ein rheswm dros yr hyn yr ydym yn ei wneud. A dyma fe. Yr ydym wedi clywed a gweled llu o feirniaid mawr a man yn beirniadu arddull Mr. GLADSTONE, ac yn awgrymu ei fod yn rhy addurnol, ac yn rhy feichiog o eiriau. Nid oes un ddadl yn ein meddwl nad oes aml un yn dywedyd felly yn unig am i Macaulay ddywedyd rhywbeth tebyg er ys mwy na deng mlynedd ar ugain yn ol. Pa beth bynag am arddull Mr. GLADSTONE yn ei lyfr ar y Wladwriaeth a Chrefydd, y mae arddull ei areithiau o'r dydd y clywsom ef gyntaf hyd y dydd heddyw yn eglur fel y goleuni.

Nid oes un dyn yn ein gwlad, ar hyn o bryd, a chanddo gynifer o wrthwynebwyr mor benderfynol ar y naill law, ac o edmygwyr trwyadl ar y llaw arall, a Mr. GLADSTONE. Nid oes neb wedi cael ei feirniadu yn llymach, na neb, ar y cyfan, a allasai fforddio beirniadaeth lem yn well nag ef. Mae yn werth edrych am foment ar yr achosion o'r teimladau cryfion sydd yn ei erbyn; yr oeddynt yn gryfion iawn, tan yn ddiweddar; y maent yn gwanychu ac yn lleihau. Yn un peth, y mae Mr. GLADSTONE, fel gwladweinydd, wedi newid ochr. Ar ei gychwyniad, yr oedd yn Dori, ac yn fab i Dori. Perthynai i'r sect fanylafo Doriaid.

Daeth allan fel cawr i bleidio y cysylltiad rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth. Yr oedd llawenydd yn holl wersylloedd y Toriaid wrth feddwl fod un o feibion dysgedicaf Rhydychain, ac un o aelodau mwyaf hyawdl Ty y Cyffredin yn amddiffynydd selog yr Eglwys Wladol. Ynddo ef y gobeithiai y blaid fawr Geidwadol, a dysgwylient yn hyderus y byddai i fantell Syr Robert Peel ddisgyn ar Mr. GLADSTONE. Ond newidiodd ei olygiadau, ac fel dyn gonest a chydwybodol newidiodd ei blaid. Er ei fod y pryd hwnw yn ieuanc, ac er ei fod am ddegau o flynyddoedd wedi cysegru ei dalentau dysglaer yn hollol i wasanaeth ei wlad, yn ddiystyr o radd a dosbarth, ni faddeuwyd ac ni faddeuir iddo byth gan y frawdoliaeth Doriaidd. Trachefn, y mae llawer yn eiddigeddu wrtho. Yr oedd gweled mab marsiandwr, yr hwn a anesid mewn ty yn un o heolydd tref fasnachol Liverpool, yn ymgodi mor uchel yn y Senedd, ac yn cyrhaedd y fath boblogrwydd yn y wlad, yn beth anhawdd i feibion uchelfrydig hen bendefigion beilchion Prydain ei oddef. Nid oedd y Whigiaid mwy na'r Toriaid yn rhydd oddiwrth yr eiddigedd hwn. Chwareuteg i Iarll Russell; er y gallai ymffrostio yn fwy nag un arall o bendefigion ein gwlad, y mae y dadganiad cyhoeddus a wnaeth drachefn a thrachefn o'i edmygedd o Mr. GLADSTONE yn brawf godidog o gywirdeb barn, didwyllder ysbryd, a gwladgarwch calon cynrychiolydd ardderchocaf teulu Bedford. Ac heblaw hyny, y mae ei berffeithrwydd yn dihuno eiddigedd, ac yn peri i ryw fath o gymeriadau ymbellhau oddiwrtho. Yr ydym yn arfer y gair perffeithrwydd, nid mewn ystyr dduwinyddol, ond i ddynodi cyfander rhagoriaethau Mr. GLADSTONE. Mae yn rhaid i ni addef, fod gwybod am ddiffygion mewn dynion enwog yn rhoddi rhyw foddineb i rywbeth sydd ynom ni. Y mae genym ein diffygion, yr ydym yn ymwybodol o honynt, maent yn peri blinder i ni; ond y mae clywed am ryw ddiffygion mewn dyn mawr, yn boddhau ein balchder, ac yn esmwythau ein hysbryd. Adroddid ystori am y Dr. John Pye Smith, iddo fyned i garu ar ryw noson, pan yn fyfyriwr yn Rotherham. Yr oedd un o'i gydfyfyrwyr wedi addaw agor y drws iddo ar ei ddychweliad. Cysgodd y myfyriwr yn rhy drwm i glywed y gloch. Rhywun arall aeth at y drws; neidiodd Pye Smith ar war yr un arall hwnw, ac wedi galw am oleu, cafodd er ei fawr ofid ei fod ar war y Dr. Edward Williams. Yr ydym yn mawr amheu yr ystori. Ond gwyddom i genedlaeth ar ol cenedlaeth o fyfyrwyr sugno cysur wrth feddwl nad oedd y Dr. Pye Smith-un o'r dynion santeiddiaf yn ei oes-ddim wedi bod trwy ei holl fywyd yn rhydd oddiwrth bob gwendid. Yr oedd Sheridan-maddeuer i ni am enwi Sheridan mor agos i'r Dr. Pye Smith-yn boblogaidd gyda dosbarth neillduol, oblegyd ei fod yn esgeulus o'i foesau, a Fox oblegyd ei fod yn methu cyfarfod a'i ofynwyr. Mae Iarll Derby yn boblogaidd; nid oes lle i amheu ei alluoedd. Treuliodd ei flwyddyn olaf yn Rhydychain yn segur. Hysbyswyd ef gan ei athraw nad oedd iddo obaith am Double First, yr oedd yntau yn rhy uchel ei ffroen i ymgystadlu am unrhyw anrhydedd heblaw yr anrhydedd penaf; ac ymadawodd a'r Brif-ysgol heb ei Double First. Yn ddiddadl, y mae yn areithiwr hyawdl; ond y mae ei areithiau yn bradychu anwybodaeth. Ac y mae y diffygion hyn yn gysur i greaduriaid ffaeledig ac anmherffaith. Yr oedd Palmerston yn wladweinydd galluog, ac yn ddyn hawddgarol. Efe, yn mlynyddoedd olaf ei fywyd,

« 이전계속 »