페이지 이미지
PDF
ePub

oedd y dyn mwyaf poblogaidd yn Lloegr. Yr oedd yn ddiffygiol mewn difrifwch, ond yr oedd hyny yn ychwanegu at ei boblogrwydd yn mysg dosbarth rhy luosog. Ond y mae Mr. GLADSTONE mor odidog fel ysgolaig, mor gyflawn o ran gwybodaeth, mor ystwyth o ran moes, mor fedrus fel cyllidydd, mor drwyadl fel gwladweinydd, ac mor rhagorol o ran hyawdledd, fel y mae y pethau hyn oll yn cyfansoddi y perffeithrwydd am yr hwn yr ydym yn son.

66

Yn Nhy y Cyffredin, yn y flwyddyn 1856, y gwelsom ac y clywsom Mr. GLADSTONE am y waith gyntaf. Yr oedd y noson hono yn noson fawr," fel y dywedir, yn y Ty. Penderfyniadau Arglwydd John Russell o barth addysg oedd dan sylw. Dyna y tro cyntaf a'r unig dro i ni glywed Arglwydd John Russell. Barnem ei fod o ran ymddangosiad yn debyg iawn i'r diweddar Barch. James Griffiths, Tyddewi. Cawsom ein siomi ynddo fel areithiwr. Siaradai yn araf ac yn hamddenol, a'i ddwylaw ar ei gefn, ond pan fyddai arno eisieu y papyrau y rhai oedd ganddo yn helaeth wrth law. Gallasai dyn dyeithr gasglu ar unwaith oddiwrth y nifer mawr oedd yn bresenol, a'r gwrandawiad astud a roddid, ei fod yn rhyw un mawr yn y Ty. Yr oedd yr araeth yn darllen yn dda iawn yn y Times dranoeth. Dyna yr unig dro y clywsom Mr. Disraeli hefyd. Gwnaeth ef araeth faith a doniol. Dilynwyd ef gan rai llai enwog. Ond yn ddisymwth, gwelem y Ty yn llenwi, a llawer o'r aelodau a fuasent allan yn dychwelyd i'w lleoedd. Gyda hyny, safai dyn o faintioli cyffredin ar ei draed-dyn yn mlodau ei ddyddiau, ac ynganai y gair a'r frawddeg gyntaf yn beraidd a hyglyw, ac yn wahanol i ddim oeddem wedi wrandaw o'r blaen. Nid oedd eisieu gofyn pwy ydoedd, er nad adwaenem ef, canys mor fuan ag y cododd, clywem aml un yn yr oriel yn dywedyd mewn llais isel ond cyffrous, "Gladstone," "Gladstone. Yr oedd ef a Mr. Disraeli ar yr un ochr i gwestiwn y noson hono, a'r ddau yn erbyn penderfyniadau Arglwydd Russell. Teimlem y noson hono mai Mr. GLADSTONE oedd yr areithiwr goreu a glywsom erioed. Clywsom ef wedi hyny, agos yn mhob math o amgylchiad, ac ar wahanol destynau, ond yr un peth ydyw ein barn am ei safle a'i deilyngdod fel areithiwr. Mae holl gymhwysderau aryn cydgyfarfod ynddo. I ddechreu, mae ganddo lais da llais hyglyw, cymhwysder cyntaf siaradwr cyhoeddus; a llais soniarus llawn, yn diwallu dymuniadau pob clust. Ac heblaw hyny, y mae ei wybodaeth yn gyflawn, a nodedig o gywir. Yr ydych yn teimlo wrth ei wrando ei fod yn deall yn glir, ac yn amgyffred yn hollol, bob peth sydd yn perthyn i'r pwnc a drinir ganddo. Ac yn ychwanegol at y pethau hyn, y mae yn feistr perffaith ar iaith. Clywsom rai yn dywedyd fod ei arddull yn rhy eiriog ac addurnol. Buom yn ceisio cyfieithu darnau o'i areithiau; gwaith anhawdd, os nid anmhosibl. un o'r gorchwylion caletaf, mewn ffordd o gyfieithu, a wnaethom erioed, oedd cyfieithu ei anerchiad i etholwyr y rhan Dde-orllewinol o swydd Lancaster, i'r Gymraeg. Ond wrth ystyried y mater yn bwyllog, nid ydym yn barod i osod y bai ar yr arddull. Perffeithrwydd yr arddull oedd yn gwneud y gorchwyl mor anhawdd. Mae arddull Mr. GLADSTONE yn benodol, yn gryno, ac yn gywir, fel y yn anhawdd cyfieithu ei areithiau i'r Gymraeg. Y mae ei eiriau wedi eu dethol a'u trefnu i osod allan ei feddwl yn hollol a digamsyniol, heb

eithiwr

Ac

mae

ddim yn ormod na dim yn eisieu. Mae ei areithyddiaeth yn dwyn delw Ty y Cyffredin, a delw swydd yn y Ty hwnw. Am y rhan oreu o'i oes, y mae wedi arfer esbonio ac amddiffyn mesurau yn y lle hwnw. Ac y mae wedi gwneud hyny er ys blynyddoedd bellach, gyda y gofal ag oedd yn gweddu i un yn rhagweled y byddai yn fuan gyfrifoldeb penaf deddfwriaeth Prydain yn gorphwys ar ei ysgwyddau. Tyfodd areithyddiaeth Mr. Bright o'r wlad i'r Senedd; tyfodd areithyddiaeth Mr. GLADSTONE o'r Senedd i'r wlad. Ymgododd Mr. Bright yn areithiwr poblogaidd yn mhlith y werin, ac wedi hyny daeth yn areithiwr mawr Ty y Cyffredin. Ymgododd Mr. GLADSTONE yn areithiwr mawr y Senedd, ac wedi hyny daeth yn areithiwr poblogaidd trwy yr holl wlad. Mae Mr. Bright yn taraw yn drymach yma a thraw yn ei areithiau, ond y mae yn GLADSTONE fwy o deimlad a thân. "Yr wyf," meddai rhyw actor, "er ys ugain mlynedd wedi ceisio dysgu ymddangos yn ddifrifol heb fod yn angerddol." Mae Mr. Disraeli yn angerddol heb fod yn ddifrifol. Mae Mr. Miall yn ddifrifol heb fod yn angerddol. Ond y mae Mr. GLADSTONE yn ddifrifol ac angerddol-y mae yn angerddol o ddifrif. Y mae ef yn disgyn yn ddyfnach, ac yn ehedeg yn uwch na phawb o'i gystadleuwyr. Yr ydym wedi sylwi ar un gwahaniaeth nodedig rhyngddo ef a Mr. Disraeli. Mae ef yn ymgodi yn ol pwysigrwydd yr achlysur, a Mr. Disraeli yn disgyn. Yr oedd rhyw arlunydd wedi tynu darlun o Baalam a'i asen, a'r angel. Mae yn debyg bod yr asen wedi ei thynu yn dda, a bod darlun yr angel yn un gwael. Gofynodd yr arlunydd farn un o feistriaid y gelfyddyd am yr hyn oedd wedi ei wneud. Atebodd hwnw, "Yr ydych yn angel gydag asyn, ond yn asyn gydag angel.” Araeth wael oedd un Mr. Disraeli ar ddiwedd y ddadl o barth Suspensory Bill Mr. GLADSTONE. Ond yr oedd araeth Mr. GLADSTONE cyn rhanu y Ty ar ail ddarlleniad Ysgrif Diwygiad 1867 yn un o'r pethau mwyaf doniol a galluog a draddodwyd yn Senedd Prydain. Fel gwladweinydd, y mae yn gymhwys i'w oes a'i wlad. Mae Prydain yn y canol, megys rhwng Ewrop hen ac America ieuanc. Mae Prydain yn hen iawn, ac eto y mae yn dal yn ieuanc. Y mae yn Mhrydain rai yn addoli yr hyn a fu yn Ewrop, ac ereill yn addoli yr hyn sydd yn America, yn fwy na Mr. GLADSTONE. Eithr nid oes neb genym a fedr werthfawrogi yr hen, a mabwysiadu y newydd yn fwy synwyrol a diragfarn nag ef. Gallwn ymffrostio mewn gwladweinyddion nodedig o alluog i ddeall barn y bobl; a gwladyddion nodedig o lwyddianus i ffurfio ac arwain y farn gyhoeddus. Ond y mae Mr. GLADSTONE yn meddu y naill a'r llall o'r rhagoriaethau hyn. Amcan Syr Robert Peel oedd deddfu yn ol dymuniad y blaid gryfaf. Ond yn ystod y ddadl ar Ddiwygiad Seneddol, ac ar amser yr etholiad cyffredinol diweddaf, arweiniai Mr. GLADSTONE y byddinoedd i'r frwydr, ac ai ei hunan i'r lleoedd poethaf a mwyaf peryglus. Diau fod ei serch at ardal ei enedigaeth yn ei wneud yn awyddus i gael ei ethol dros y rhan Dde-orllewinol o swydd Lancaster. Ond yr oedd ganddo amcan arall ac uwch; yr oedd am ymladd a Thoriaeth yn ei ffau ei hun, fel y gallai wneud yr ofnus o galon yn wrol, a'r gwrol yn frwdfrydig. Trethodd ei natur yn drwm; gweithiodd mewn amser ac allan o amser; traddododd y rhes areithiau etholiadol ardderchocaf yn hanes ein gwlad; ac os collodd yn Liverpool, enillodd yn Mhrydain a'r Iwerddon.

Mae Mr.

Anturiaeth ddifrifol i wladweinydd o oed ac enwogrwydd Mr. GLADSTONE oedd dadgan ei hun o blaid dadgysylltu a diwaddoli yr Eglwys Wyddelig. Mwy o anturiaeth o lawer nag eiddo Syr Robert Peel pan drodd o blaid dyddimu deddfau yr yd. Oblegyd yn un peth, nis gallesid gohirio y pwnc hwnw-yr oedd yn rhaid dileu y ddeddf gan Syr Robert neu gan rywun arall. Ac heblaw hyny, nid oedd hwnw yn gwestiwn eglwysig. Gallasai Mr. GLADSTONE fyned i gadair y Prif Weinidog heb ymdaflu o blaid y Dadgysylltiad yn yr Iwerddon. Yr oedd wedi gwneud gwaith cyllidydd mor rhagorol fel y gallasai fyw ar yr enwogrwydd hwnw am flynyddoedd. Buasai llawer o'r Toriaid yn ei gefnogi pe buasai yn gadael Ilonydd i bwnc yr Eglwys Wladol; canys y mae llawer o'r Toriaid, fel pobl ereill, yn caru cynildeb yn y treuliau cyhoeddus, a gostyngiad yn nhreth incwm. Ond argyhoeddwyd ef o anghyfiawnder Eglwys Sefydledig yr Iwerddon, ac anturiodd i'r frwydr, beth bynag fyddai y canlyniadau. Mae a wnelo argyhoeddiadau Mr. GLADSTONE nid yn unig a'i ddeall, ond a'i galon a'i gydwybod. Mae yn dda genym weled mater yr Eglwys Wyddelig yn cael ei drefnu, nid gan ddwylaw cyffredin, ond gan Seneddwyr yn ofni Duw. GLADSTONE nid yn unig yn ddyn moesol, ond hefyd yn ddyn crefyddol ; nid yn unig y mae yn ddiargyhoedd o ran ei fuchedd, ond hefyd yn addolwr cyson a chydwybodol. Mae yn argoel dda am ein gwlad, fod dynion mor grefyddol ag awenau ein llywodraeth yn eu dwylaw. ydym yn cofio cyfaill i ni yn dywedyd ar ol darllen araeth enwog Mr. Bright ar ail ddarlleniad Ysgrif yr Eglwys Wyddelig, "y gallesid adrodd rhanau helaeth o honi yn y society." Mae yr ysgrythyrau yn cael eu coffhau yn Nhy y Cyffredin yn llawer amlach nag mewn un cyfnod er dyddiau y Puritaniaid; ac yn cael eu coffhau, nid er mwyn pertrwydd, neu ddigrifwch, neu addurniant areithyddol, ond i'r un amcan ag y rhoddwyd hwynt. Yn nyddiau olaf Palmerston, yr oeddym yn dechreu ofni nad oedd nemawr obaith am ddiwygiadau o un math am flynyddoedd, os nid am ein hoes, heblaw y diwygiadau a wnai Mr. GLADSTONE gyda golwg ar y cyllid a'r treuliau. Ond y mae gweithrediadau y blynyddoedd diweddaraf wedi ein galluogi i gymeryd cysur cryf. Yr ydym yn edrych yn mlaen ar y dyfodol yn hyderus a gobeithiol. Mae buddugoliaeth fawr yr etholiad cyffredinol a gweithrediadau y Senedd-dymhor presenol yn ein galluogi i edrych heb gywilyddio ar y cyfnodau mwyaf dysglaer a gogoneddus yn hanes ein gwlad.

Yr

Gwyn fyd y wlad ag y mae iddi hanes ag sydd yn werth son am dano ac ymffrostio ynddo; a gwyn eu byd y bobl ag y mae eu mawredd gwladwriaethol nid yn unig yn parhau, ond yn cynyddu. Bu yr Aifft, a Phoenicia, a Babilon, a Persia yn enwog yn eu dydd, ond gwanychodd eu nerth ac ymadawodd eu gogoniant. Dringodd Groeg i binacl uchaf gwareiddiad gyda chyflymdra mawr, ond disgynodd gyda chyflymdra mwy. Bu Rhufain, yn ei dydd, yn gwasgar egwyddorion llywod-ddysg, ac yn ysgwyd teyrnwialen awdurdod o lanau y Danube, yn y gogledd, hyd yn Affrica, yn y dê; ac o'r afon fawr Euphrates, yn y dwyrain, hyd for Iwerydd, yn y gorllewin. Ond pwyswyd hi yn y clorianau, caed hi yn brin, a rhanwyd ei breniniaeth. Myn rhai fod cyffelyb dynged o angenrheidrwydd yn aros Prydain Fawr, ac edrychant yn y blaen gyda chalon drom a gwyneb trist ar yr adeg pan fydd

rhywun o New Zealand yn sefyll ar ddarn o Bont Llundain, i dynu darlun o adfeilion cysegredig Eglwys Gadeiriol Sant Paul. Diau fod terfyn dros yr hwn nis gellir myned-terfyn yr adnoddau naturiol. Nis gall doethineb yr athronydd, nis gall hyawdledd yr areithiwr, nis gall gwybodaeth yr hanesydd, nis gall synwyr y gwladweinydd, ac nis gall cywreindeb y celfyddydwr ychwanegu dim at adnoddau naturiol eu gwlad. Dadfeiliodd a syrthiodd y gwledydd a fuont unwaith yn enwog, nid oblegyd fod yr adnoddau naturiol wedi darfod, ond drwy ddallineb y llywodraethwyr ac ymraniadau y bobl. Os pery mawredd Prydain tra y parhao ei hadnoddau naturiol, gall ein llywodraethwyr edrych heb wrido yn wyneb yr holl fyd, a gall pob Prydeiniwr gonest a chywir ymffrostio yn hanes ei wlad. Os dysbyddir gwely glo Deheudir Cymru, os erys olwynion peirianau siroedd Caerefrog a Chaerwerydd, os nytha yr adar yn ystordai Manceinion a Llynlleifiad, ac os gwelir eto bysgotwyr yn sychu eu rhwydau ar y llecyn lle y saif Mynachlog hen Westminster, bydd hanes Prydain byw. Bydd byw ar gyfandir mawr America, bydd byw yn llywodraethau dyfodol Australia, a bydd byw yn hanes efengyleiddiad y byd paganaidd. Ac ar rai o'r tudalenau penaf yn hanes Prydain, y bydd enw yr ysgolaig trwyadl, yr areithiwr hyawdl, y cyllidydd doeth, a'r gwladweinydd cyfiawn-WILLIAM EWART GLAD

STONE.

Y DDADL AR YR EGLWYS WYDDELIG.

HYNODIR cyfnodau o amser gan ddygwyddiadau cyffrous a neillduol. Nid yw amser, mwy na'r afon, yn parhau i ymdreiglo yn llyfn a gwastad trwy yr oesau. Canfyddir yr afon mewn manau yn teithio yn hamddenol-treigla trwy y gwastadeddau a'r dyffrynoedd mewn pwyll ac amynedd. Rhydd amser i'r deadelloedd i dori eu syched yn ei dyfroedd, a'r llanciau i ymdrochi yn ei phyllau ganolddydd haf. Trwy ei harafwch, cymhella y pysgotwr, a'i wialen, a'i gwch, a'i rwyd, i chwilio am y brithyll a'r eog dan ei cheulanau. Ymloewa ei dyfroedd nes bod yn ddrych cyfaddas i natur ar ei glanau, ac i wrthddrychau y nefoedd weled eu prydferthwch a'u gogoniant. Ond mewn manau ereill casgl ei holl nerth, a chrynhoa ei holl ddyfroedd yn un pentwr, a ffyrniga yn erwin wrth ymsaethu yn ewynog trwy gilfachau a rhidyllau y creigiau, gan ymollwng i'r dyfnderau dros ysgwydd y rhaiadr ucheldrem, nes creu swn fel myrdd o daranau trwy y wlad oddiamgylch. Yr un afon sydd yn y ddau le, ond y mae'r sefyllfa yn wahanol; ac y mae'r graig a'r rhaiadr yn gwneud llawer mwy o farc yn hanes ei thaith na llyfnedd ei gwely ar y gwastadedd. Ysgrifenir desgrifiadau o'r graig, a thyra miloedd o bob gwlad a chenedl wareiddiedig i weled y rhaiadr, a mawr fel yr arswydant aruthredd yr olygfa, ond ni safant am gymaint a mynyd i sylwi ar fawreddigrwydd yr un afon yn ymddifyru fel tywysoges yn nghanol y dolydd a'r gwinllanoedd. Mae un rhaiadr wedi gwneud enw y Niagara yn adnabyddus yn mhob gwlad lle mae cenedl ddarllengar yn bodoli; ond mae llawer afon arall yn filwaith mwy gwasanaethgar i gymdeithas yn cael dianc yn hollol ddisylw. Tebyg i

Eithr

hyn yr hanes blynyddoedd ein bywyd. Mae ambell flwyddyn yn myned dros deulu heb adael digon o argraff ar feddwl neb i gofio yn sicr am dani. Ni fu yno enedigaeth na marwolaeth; cystudd trwm na gorfoledd mawr; trallod du na llawenydd digymysg. Blwyddyn lawn o amgylchiadau cyffredin bywyd ydoedd, ac ymdreiglodd ymaith mor llefn a dystaw fel y mae wedi dianc o gof pawb. Dilynwyd hon, hwyrach, gan flwyddyn a gofir am dragywyddoldeb; mae wedi gadael olion mor ddwfn fel y rhaid difodi holl hanfodion y fodolaeth cyn gellir ei anghofio. Bu tymhestloedd cryfion yn curo, a dyfroedd chwyrn yn llifo dros y teulu, nes mae prawfion o enbydrwydd y trychineb yn aros ar gnawd, ac esgyrn, a gewynau y corff oll, ac hyd y nod ar ddirgeloedd yr enaid hefyd. Mae dyddiad y flwyddyn hono yn cael ei gofio yn gwbl ddidrafferth. Megys y teulu felly y deyrnas hefyd. Llithrodd llawer blwyddyn ymaith mewn teyrnas heb beri unrhyw gyffro neillduol. Nofiai y llongau wyneb y dyfnder mawr, gan ddwyn eu trysorau o wlad bell. Chwyrnredai y cerbydresi ar hyd y cledrffyrdd heb wrthdarawiad na damwain. Dilynai y masnachwyr, y crefftwyr, a'r trigolion oll eu galwedigaethau arbenig heb unrhyw amgylchiad o bwys i derfysgu heddwch, na rhwystro llwyddiant dinas na gwlad. Nid yw hanes y deyrnas am flynyddoedd felly, ond unffurfiol a thawel. y mae blynyddoedd ereill wedi ysgrifenu eu hanes mor ddwfn ac annileadwy fel y darllenir ef gyda dyddordeb gwefrol gan yr oesau a ddaw. Chwythwyd yn udgorn rhyfel, a galwyd y byddinoedd i'r maes. Blaenllymwyd y bidogau, dynoethwyd y cledd -rhuthrodd miloedd o wyr arfog fel llewod cynddeiriog i yddfau eu gilydd nes cochi dyffrynoedd a gwaed, a dwyn ochain a gwae i deulu y cyfoethog a'r tylawd. Nodweddid blwyddyn arall gan gyfyngderau masnachol. Hen fasnachdai yn cau i fyny, a dynion o barchusrwydd cyffredinol yn methu dal eu ffordd, ac mewn canlyniad eisieu bara yn cael ei deimlo gan filoedd. Mae blynyddoedd i'w cofio hefyd ar gyfrif ymweliad yr Arglwydd a'i bobl. Cofia lluaws am y flwyddyn hono pan ddychwelwyd hwy i ffyrdd gwirionedd a sobrwydd. Byddai yn hawdd ychwanegu lluaws o enghreifftiau yn yr un cyfeiriad, ond y mae hyn yn ddigon i ddangos fod rhai blynyddau yn hawddach i'w cofio na'r lleill. Mae hyn yn wirionedd eglur iawn am y flwyddyn hon. Nis gwyddom eto beth a ddygwydd cyn ei diwedd. Mae llawer o elfenau cyffrous yn ymweithio trwy gymdeithas. Mae pobloedd amryw o wledydd Ewrop yn orlawn o ddefnyddiau hylosg, ac nid oes angen ond un wreichionen o dân er gwneud y cyfandir oll, mewn ystyr wleidyddol, yn wenfflam oleu. Cuddir y dyfodol oddiwrthym gan drugaredd yr Anfeidrol, ac nid yw y mwyaf craffus o blant dynion yn gallu gweled dim rhagor na chysgodion aneglur yr amgylchiadau sydd ar ddyfod. Hwyrach nad oes daiargryn na thanchwa, llongddrylliadau na rhyfeloedd i hynodi y flwyddyn hon. Ond y mae un amgylchiad wedi dygwydd eisoes a sicrha goffadwriaeth y flwyddyn 1869 tra byddo hanes Prydain yn cael ei ddarllen. Cwestiwn mawr y blynyddau hyn yw CYDRADDOLDEB CREFYDDOL. Nid yw yn gyfyngedig i un deyrnas, ond y mae yn creu dyddordeb a dadleu mawr yn mhob gwlad lle mae anghydraddoldeb yn bodoli. Nid yw anghydraddoldeb yn fwy gwarthus yn unrhyw deyrnas nag yn Mhrydain; ond y mae y fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y pren, ac yn bur fuan ei

« 이전계속 »